Elgan Llŷr Thomas

Elgan Llŷr Thomas

Tenor o Landudno yw Elgan Llŷr Thomas, sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu ym Manceinion. Ynghyd â bod yn athro brwdfrydig mae’n dilyn gyrfa brysur fel canwr opera llawrydd ac wedi gweithio gyda’r English National Opera lle y mae’n Artist Harewood, Scottish Opera, Opera Holland Park, Théâtre des Champs-Elysées ym Mharis, Opéra National de Bordeaux, La Monnaie ym Mrwsel ac mae wedi perfformio mewn nifer o wyliau ar draws y byd yn gynnwys Gŵyl Gerdd Ojai yng Nghaliffornia, Gŵyl Adelaide yn Awstralia a Gŵyl Aldeburgh yn Suffolk.

Mae galw mawr amdano i berfformio mewn cyngherddau ac mae Elgan wedi perfformio gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Copenhagen, Cerddorfa Symffoni Xi’an, China, Orchest Symphonique de Bretagne, ac uchafbwynt iddo oedd perfformio fel unawdydd yn Messiah Handel yn y Royal Albert Hall gyda Cherddorfa’r Royal Philharmonic.

Hyfforddodd Elgan yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ac Ysgol Cerdd a Drama Guildhall. Yn ystod ei gyfnod yn astudio fe dderbyniodd nifer o wobrau, yn cynnwys Gwobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows 2015 a’r wobr cynulleidfa, Gwobr Artist Ifanc 2015 a’r wobr cynulleidfa yng Ngŵyl Les Azuriales yn Nice, Gwobr Goffa Osborne Roberts 2012 a 1af yn yr unawd Theatr Gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, mae’n gyn-enillydd Ysgoloriaeth Genedlaethol yr Urdd Bryn Terfel.

Siân Wyn Gibson

Siân Wyn Gibson

Cafodd Siân ei magu ym mhentref Deiniolen ger Caernarfon, ardal sydd â thraddodiad cerddorol cryf yn perthyn iddi, ac yn fuan iawn daeth i amlygrwydd fel cantores ar lwyfan yr Eisteddfodau. Cwblhaodd ei haddysg gerddorol yng ngholeg Cerdd Manceinion gan ennill sawl Ysgoloriaeth. Bu’n aelod o gwmnïau opera D’oyly Carte ac Opera North yn Leeds, a chwaraeodd nifer o rannau operatig blaenllaw. Dychwelodd i Opera North i recordio rhan Fenws gyda chwmni D’Oyly Carte ar label Sony. Ar hyn o bryd mae Siân yn canolbwyntio ar waith Oratorio a chyngerdd, ac mae’n rhoi gwersi canu yn ei chartref ger Caernarfon ac yng Ngholeg Menai. Mae’n fam i ddau o blant, Catrin a Siôn.

Siân Wheway

Siân Wheway

Yn wreiddiol o Fetws yn Rhos, graddiodd Siân o Goleg Prifysgol Bangor gan astudio o dan yr Athro William Mathias, oedd yn diwtor personol iddi am gyfnod. Wrth ddilyn cwrs gradd, y piano a’r llais oedd ei phrif feysydd astudiaeth ymarferol. Wedi 4 mlynedd o ddysgu cerddoriaeth yn y sector uwchradd aeth ymlaen i astudio ar gwrs Ôl-radd yn y Celfyddydau Perfformio yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ers hynny mae gyrfa Siân wedi bod yn un amrywiol gan gynnwys perfformio, cyfansoddi, sgriptio, ymchwilio a chyflwyno mewn swyddi yn y BBC a HTV yng Nghaerdydd, cyn symud yn ôl i fyw i’r Gogledd ym 1990 a chael gwaith fel is-gynhyrchydd rhaglenni adloniant ysgafn yng Nghwmni Teledu’r Tir Glas yng Nghaernarfon. Ers 1994 bu Siân yn un o gyfarwyddwyr cwmni Teledu Gwdihw yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol, adloniant ysgafn a cherddoriaeth i S4C a’r BBC yn bennaf. Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni adloniant ar gyfer Radio Cymru. Yn y flwyddyn 2000 sefydlodd RYGARUG gyda’i gwr, sef cynllun celfyddydau perfformio i bobol ifanc Dyffryn Peris a’r cylch ac yn ystod y cyfnod hwn, cynhyrchwyd 4 sioe gerdd yn Theatr Seilo, Theatr Gwynedd a Galeri Caernarfon. Enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1983 ac mae hi’n dal i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon. Bydd nifer o’i gweithiau mwyaf diweddar yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2015. Bu Siân yn arweinydd Côr Eryri o 1999 hyd at 2010 ac ers Ebrill 2013, hi ydy Cyfarwyddwr presennol Côr Dre, sef côr SATB o ardal Caernarfon a’r cyffiniau. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Côr Dre wedi bod yn brysur iawn yn cynnal cyngherddau ac yn recordio yn Stiwdio Sain, yn ogystal â chael llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Powys ac eisteddfodau eraill ynghyd a chipio teitl Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Derry. Mae Sian wedi bod yn diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2003 yn dysgu piano, canu a theori cerddoriaeth.

Rhys Meirion

Rhys Meirion

Graddiodd Rhys Meirion ym myd addysg a bu’n brifathro cyn cychwyn ei hyfforddiant fel canwr. Cwblhaodd ei astudiaethau ar gwrs opera ôl-radd yn y Guildhall, Llundain.
Yn dilyn y cwrs hwn, ymunodd Rhys â Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1999 lle bu’n un o’r prif gantorion o 2001-2004.Ymysg ei rannau mwyaf roedd Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore a Nadir yn y Pysgotwyr Perlau. Yn 2002, gwelwyd Rhys am y tro cyntaf yn Awstralia fel Rodolfo yn La Boheme i Gwmni Opera
Gorllewin Awstralia a’i berfformiad cyntaf yn Ewrop fel Adolfo i Städtische Bühnen, Frankfurt-am-Main.
Mae ei uchafbwyntiau mewn cyngherddau yn cynnwys cyngerdd gala yn neuadd Albert, Llundain gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yn y Proms yn 2001 gafodd ei ddarlledu ar BBC 2 a Chyngerdd Penblwydd Desert Island Discs yn y Festival Hall yn Llundain. Mae wedi ymddangos yng Ngwyliau Henley, Cheltenham, Gogledd Cymru ac Abertawe i enwi ond rhai; mewn cyngherddau ym Mhatagonia, Barbados, Toronto, Ottawa a Florida ac yn ymddangos yn aml fel unawdydd gwadd mewn galas operatig gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol. Fel canwr, mae ei recordiadau yn cynnwys albwm mewn deuawd gyda Bryn Terfel o’r enw Benedictus ar label SAIN. Mae ganddo hefyd CD o’r enw Bluebird of Happiness ar gyfer y label Awstralaidd Stanza AV a thair CD arall i SAIN, Celticae yw’r ddiweddaraf. Dychwelodd at Gwmni Cenedlaethol Cymru yr haf diwethaf (2010) mewn cynhyrchiad o Die Meistersinger von Nurnberg gan Wagner gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.

Marian Bryfdir

Marian Bryfdir

Ganed Marian Bryfdir yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol a bu’n canu gydag Opera Gŵyl Glyndebourne ac yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, cyn arbenigo mewn opera-mewn-addysg ac addysgu’r llais.
Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth Goffa Arglwydd Harlech am ei gwaith â chantorion ifainc. Bu Marian Bryfdir yn gweithio am sawl blwyddyn yn Andalwsia fel perfformwraig a hyfforddwraig y llais, gan gyd-weithio â’r actor-cyfarwyddwr Jose-Maria Penela ar gyrsiau (nid ar gyfer perfformwyr yn unig, ond hefyd ar gyfer therapyddion lleferydd, cyfieithwyr ar y pryd ac eraill sy’n defnyddio’r llais yn broffesiynol).
Cyn bo hir fe gyhoeddir eu llyfr gwaith ar gyfer llais canu a llais lefaru, mewn fersiwn Cymraeg. Yn ei “Stiwdio Llais” yng Ngogledd Cymru, cynigia hyfforddiant arbenigol i gantorion ac actorion ar dechnegau a repertoire. Trefna gyrsiau byrion o adferiad lleisiol ar gyfer unigolion sydd â thrafferthion lleisiol o bob math, gan gynnal hefyd gyrsiau byrion ar gyfer athrawon canu ifainc.

Johanne Jones

Johanne Jones

Mae Johanne yn cynnig hyfforddiant mewn arddulliau pop, Disney a sioeau cerdd i’w myfyrwyr yn CGWM. Dechreuodd berfformio o flaen cynulleidfaoedd yn 11 oed, yn yr eglwys leol, mewn cynyrchiadau ysgol ac fel aelod o gôr.
Datblygodd ei llais ymhellach drwy gystadlu a chael hyfforddiant lleisiol clasurol ac opera. Fe aeth ymlaen i astudio’r Celfyddydau fel pwnc Lefel A, a graddio gydag anrhydedd mewn Celfyddydau Perfformio a’r Cyfryngau. Cafodd swydd fel ‘Cot Goch’ cyn mynd ymlaen i sefydlu gyrfa fel cantores hunan-gyflogedig gan berfformio mewn canolfannau ledled Cymru..
Mae Johanne wedi bod yn cynnig hyfforddiant lleisiol a datblygu hyder perfformio ers 2004. Mae’n trefnu i’w myfyrwyr ddod at ei gilydd ddwywaith y flwyddyn i berfformio yn unigol ac fel grwpiau. Ei nod yw cynyddu hyder pobl i gredu ynddynt eu hunain, nid yn unig ym maes canu a pherfformio, ond yn ogystal yn eu bywydau bob dydd.

Ann Atkinson

Ann Atkinson

Ar ôl ennill ei B.Add o Brifysgol Cymru dilynodd yrfa addysgu. Fodd bynnag, yn 1990, enillodd Ann ysgoloriaeth i astudio canu gyda Kenneth Bowen yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ers hynny mae hi wedi perfformio fel cantores ledled y DU a thramor , mewn amrywiaeth o leoliadau a gyda llawer o Gwmnïau Opera Prydain, gan gynnwys Scottish Opera a Opera Gŵyl Glyndebourne.
Mae gyrfa Ann wedi mynd â hi i lawer o wahanol rannau o’r byd , gan gynnwys Ewrop , yr Unol Daleithiau , Asia ac Awstralia . Yn ystod haf 2005 bu’n daith Seland Newydd ac Awstralia fel unawdydd gyda Chôr Llewod. Penllanw’r daith oedd cyngerdd gala yn y Sydney Opera House. Yn ychwanegol at ei gyrfa canu mae Ann yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru’, yn arweinydd Côr Meibion Bro Glyndŵr a Threlawnyd yn ogystal â bod yn diwtor llais i Ganolfan Gerdd William Mathias.
O 2002 i 2009 roedd Ann hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Froncysyllte. Yn ystod y cyfnod hwn roeddynt yn enillwyr gwobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yng Ngŵyl Harmonie yn yr Almaen.
Yn 2006 bu i’r Côr sicrhau cytundeb gyda Universal a daeth CDs y ‘Voices of the Valley’ i fodolaeth gan werthu dros 1 miliwn o gopïau. Cafodd pob un o’r pedwar CDs eu henwebu ar gyfer ‘Albwm y Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Brits Clasurol. Mae Ann yn ymfalchïo o fod yn arweinydd ac unawdydd ar y CDs . Yn 2007 buont yn perfformio yng Ngwobrau Brits Clasurol yn Neuadd Albert ac maent wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu ac mewn cyngherddau lu yn ystod y cyfnod prysur hwnnw.

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias.

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

You have Successfully Subscribed!