by Gwydion Davies | 23 February, 2019
Mae Dr Rhiannon Mathias ffliwtydd ac awdur gyda chryn ddiddordeb ym maes cerddoriaeth gyfoes.
Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Surrey a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, cyn parhau ei hymchwil ar Schoenberg a Stravinsky ym Mhrifysgol Reading.
Mae ganddi brofiad helaeth fel darlithydd, darlledwraig a siaradwr cyhoeddus, ac mae Rhiannon yn cael ei chydnabod fel arbenigwraig ar gerddoriaeth Grace Williams, Elizabeth Maconchy ac Elisabeth Lutyens.
Mae hefyd yn chwareydd ffliwt eithriadol o fedrus ac wedi bod yn diwtor CGWM ers 2005.
by Gwydion Davies | 23 February, 2019
Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol sy’n ymdrechu i ysbrydoli. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion a chydweithio ag amryw o bartneriaid ar brosiectau. Mae ganddi nifer o flynyddoedd o brofiad yn dysgu chwythbrennau fel athrawes beripatetig i Gwasanaeth Ysgolion William Mathias ac wedi dysgu’r clarinét, sacsoffon a phiano yn y Ganolfan ers iddo gychwyn.
Mae Marie-Claire wedi ei chofrestru fel Ymarferwr Creadigol ar gynllun Celfyddydau a dysgu creadigol newydd y Cyngor Celfyddydau. Mae hi wedi gweithio gyda’r Ganolfan ar nifer o brosiectau megis Caru Cerdd, Clwb Plant y Rhyl, Doniau Cudd, a Singing for the Brain gyda’r Gymdeithas Alzheimer. Gyda diddordeb mewn sut mae pobl yn dysgu a rhyngweithio, mae hi yn mwynhau ei rôl fel siaradwr gwadd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ar gyfer y modiwl Cerdd yn y Gymuned.
Marie-Claire sy’n sgwennu cynlluniau’r gwersi a’r caneuon ar gyfer Camau Cerdd. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol a defnydd o’r adnoddau gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi hi gan sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfleoedd i dderbyn y profiadau cyfoethog o ddysgu a ddarperir gan Camau Cerdd.