
Croeso i Camau Cerdd Ar-lein!
Mae Mr Cerdd a thiwtoriaid Camau Cerdd yn edrych ymlaen at eich diddanu dros yr wythnosau nesaf.
Byddwn yn rhyddhau dau fideo bob wythnos am 10:00am – un i blant oed Camau Cyntaf (i fyny at 4 oed) ar ddyddiau Mawrth, ac un i blant Camau Nesaf (4 – 7 oed) ar ddyddiau Gwener.
Er ein bod ni’n cynllunio’r fideos i oedrannau gwahanol, mae’n bosib i bawb ymuno i mewn yn yr hwyl a bydd modd i bawb weld y fideos Camau Cyntaf a Nesaf.

Tiwtoriaid Camau Cerdd
Marie-Claire Howorth Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol sy’n ymdrechu i ysbrydoli. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion a chydweithio ag amryw o bartneriaid ar brosiectau. Elin Wyn Roberts Graddiodd Elin o Birmingham Conservatoire yn 2014 gyda anrhydedd dosbarth cyntaf mewn perfformio.Yn ystod ei chyfnod yno, bu’n aelod o gerddorfeydd ac ensemble, cymerodd ran mewn dosbarthiadau meistr, a fe chyrhaeddodd rownd derfynol y BPO Concerto Prize ac enillodd y Birmingham Conservatoire Woodwind Prize. Elin Taylor Graddiodd Elin Taylor â gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Caerdydd ac fe dderbyniodd ysgoloriaeth er mwyn mynd ati i astudio ymhellach ar lefel Meistr gan raddio gyda rhagoriaeth. Fel aelod o gerddorfa, mae Elin wedi perfformio yn helaeth yn Lloegr a Chymru, ac ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol yn yr Almaen, Ffainc, Gwlad Belg a China. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol cafodd ei apwyntio fel prif sielydd Cerddorfa symffoni Prifysgol Caerdydd yn ei blwyddyn gyntaf gan gadw’r rôl drwy gydol ei chyfnod yn astudio ei gradd isradd, ynghyd â Cherddorfa Siambr y Brifysgol, Cerddorfa Linynnol a Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes. Ar hyn o bryd mae hi’n perfformio gyda’r Ashdown Sinfonia sydd wedi ei leoli yn Llundain, Camerata Gogledd Cymru a’r Philharmonia Gogledd Cymru. Mae hi hefyd wedi derbyn gwahoddiadau i berfformio fel unawdydd ar gyfer cerddorfeydd Llinynnol a Chyngerdd Prifysgol Caerdydd. Mae brwdfrydedd Elin ar gyfer cerddoriaeth siambr wedi ei harwain i sefydlu’r Pedwarawd Llinynnol Claret yn 2016. Mae’r pedwarawd yn gwneud ymdrech i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion drwy berfformio mewn ysgolion. Rhoddwyd perfformiadau hefyd yn Academi Prydain Iau Brwsel ac mewn digwyddiadau codi arian ar gyfer elusen ‘Making Music Changing Lives’ sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Hefyd fel un o’r aelodau a sefydlwyd y Camerata Gogledd Cymru, mae Elin yn gweithio i godi arian i gefnogi gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru drwy berfformio. Mae’r Camerata yn rhoddi arian yn gyson tuag at Gerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, cerddorfeydd mae Elin wedi gweld budd o fod yn aelod ei hun yn y gorffennol. Mae profiadau cymdeithasol cadarnhaol mae Elin wedi ei gael wrth berfformio cerddoriaeth wedi ei gadael yn angerddol ynghylch datblygiad cerddorol mewn cymunedau, ac wrth gwrs cynhaliaeth cerddoriaeth i’r ifanc ar gyfer y dyfodol, gan arwain iddi ddysgu. Yn 2015, fe greodd Elin Cyfres Cyngherddau Cymunedol Caerdydd, gan ddarparu cyngherddau am ddim i drigolion ynysig yng Nghaerdydd. Yn 2018 arweiniodd Elin cyfres o weithdai cyfansoddi cerddoriaeth yn Ysgol Gynradd Llanllechid ac mae hi’n dysgu i Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.
Marie-Claire sy’n sgwennu cynlluniau’r gwersi a’r caneuon ar gyfer Camau Cerdd. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol a defnydd o’r adnoddau gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi hi gan sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfleoedd i dderbyn y profiadau cyfoethog o ddysgu a ddarperir gan Camau Cerdd.
Yn ddiweddar, cwblhaodd radd meistr ym Mhrifysgol Bangor. Mae Elin bellach yn diwtor chwythbrennau mewn amryw o ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Gogledd Cymru. Ers 2015, mae Elin wedi bod yn cyd-weithio gyda Marie-Claire ac ers 2016 wedi bod yn un o diwtoriaid Camau Cerdd.
Gwneud Rhodd
Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias?
Ebrill 2020
Sesiwn 1: Camau Cyntaf
7 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Croeso i sesiwn gyntaf ar-lein Camau Cerdd. Dros y mis nesaf byddwn yn edrych ar y thema Dan y Môr.
Byddwch angen: Llwyau pren, darn o ddefnydd.
Sesiwn 1: Camau Nesaf
10 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Croeso i sesiwn gyntaf Camau Nesaf Cerdd!
Byddwch angen:
2 lwy bren.
Geiriau ‘O Dan y Môr‘ (dewisol)
Sesiwn 2: Camau Cyntaf
14 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Byddwch angen:
- Tamaid o ddefnydd er mwyn chwifio a dawnsio
- 2 caead jar neu gaead poteli plastig
Sesiwn 2: Camau Nesaf
17 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Ar gyfer yr sesiwn yma, fydd angen:
- Drwm
- Teils Rhythmau
- 2 caead jar neu gaead poteli plastig
Deunydd Ychwanegol: Rhythmau 1, Rest Crosiet.
Sesiwn 3: Camau Cyntaf
21 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Byddwch angen:
- Tamaid o ddefnydd er mwyn chwifio a dawnsio
Sesiwn 3: Camau Nesaf
24 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Drymiau (gallwch ddefnyddio sosban neu focs)
- Teils Rhythm
- Offeryn y Môr neu shaker
Sesiwn 4: Camau Cyntaf
28 Ebrill 2020,
(Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Offeryn y Môn neu Shaker
- Adar papur
- Unrhyw offeryn arall
Mai 2020
Sesiwn 4: Camau Nesaf
1 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Unrhyw offeryn
Sesiwn 5: Camau Cyntaf
5 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Blodyn Papur (Gweler: Sut i Greu Blodyn Papur) neu tamed o ddefnydd neu sgarff.
Sesiwn 5: Camau Nesaf
8 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Teils Rhythm
- Drwm (gallwch ddefnyddio sosban neu focs)
Sesiwn 6: Camau Cyntaf
12 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Potiau iogwrt neu potiau plantigyn
- Darn o ddefnydd
Sesiwn 6: Camau Nesaf
15 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
Sesiwn 7: Camau Cyntaf
19 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Eich offeryn guiro i wneud sŵn broga.
Sesiwn 7: Camau Nesaf
22 Mai 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Teiliau Rhythm
- Teil Rhythm Newydd: Te-Tica
Sesiwn 8: Camau Cyntaf
26 Mai 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Gwisgo fyny fel anifail os hoffech chi!
- Potyn iogwrt
Sesiwn 8: Camau Nesaf
29 Mai 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Teiliau Rhythm
- Teil Rhythm Newydd: Tica-Te
- Offeryn y Gwenyn
Mehefin 2020
Sesiwn 9: Camau Cyntaf
9 Mehefin 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Sosban a llwy bren
- Scarff neu damaid o ddefnydd
Sesiwn 9: Camau Nesaf
12 Mehefin 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Sesiwn 10: Camau Cyntaf
16 Mehefin 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Sesiwn 10: Camau Nesaf
19 Mehefin 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Chwiban / Chwiban wedi’u gwneud yn defnyddio moron
- Teiliau Rhythmau
Sesiwn 11: Camau Cyntaf
23 Mehefin 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Cloch beic (neu unrhyw gloch i creu sŵn beic)
Sesiwn 11: Camau Nesaf
26 Mehefin 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Cloch beic (neu unrhyw beth sy’n creu sŵn cloch)
- Teiliau Rhythmau
Sesiwn 12: Camau Cyntaf
30 Mehefin 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- ‘Bubble wrap’ a phapur trwchus
Gorffennaf 2020
Sesiwn 12: Camau Nesaf
3 Gorffennaf 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
Sesiwn 13: Camau Cyntaf
7 Gorffennaf 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed). Os yn bosibl byddwch angen:- Clychau neu offeryn i ysgwyd
Sesiwn 13: Camau Nesaf
12 Gorffennaf 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
Sesiwn 14: Camau Cyntaf
14 Gorffennaf 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Blodau i ddawnsio gyda
Sesiwn 14: Camau Nesaf
17 Gorffennaf 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Teiliau Rhythmau
- Blodyn i ddawnsio gyda
Sesiwn 15: Camau Cyntaf
21 Gorffennaf 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Sesiwn 15: Camau Nesaf
24 Gorffennaf 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Drwm
Sesiwn 16: Camau Cyntaf
28 Gorffennaf 2020, (Wedi ei anelu at blant 0-4 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Unrhyw offeryn sydd ganddoch fel drwm neu offeryn ysgwyd
Sesiwn 16: Camau Nesaf
31 Gorffennaf 2020,
(Wedi ei anelu at blant 4-7 oed).
Os yn bosibl byddwch angen:
- Unrhyw offeryn i ymuno gyda ni e.e. drwm neu offeryn ysgwyd
- Eich teiliau Rhythm
I weld y cynnwys Camau Cerdd Ar-lein diweddaraf, ewch i www.cgwm.org.uk/camau-cerdd/arlein/cynnwys/