Mae CGWM yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).
Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies (gwydion@cgwm.org.uk) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.
Dyddiad Cau: hanner dydd, Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach neu sgwrs anffurfiol cysylltwch gyda Meinir Llwyd Roberts (Cyfarwyddwr) ar 01286 685 230 neu meinir@cgwm.org.uk
Am ragor o wybodaeth gweler y Swydd Ddisgrifiad.