Cyngerdd Haf 2017

Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf, 2017

Cynhaliwyd ein cyngerdd Haf eleni yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor ar ddydd Sul braf ar y 18fed o Fehefin.

Cafwyd perfformiadau gan ddisgyblion ifanc a disglair CGWM yn ogystal â’r pedwarawdau ac ensemblau llinynnol dan arweiniad Nicki Pearce.

Eto eleni, dyfarnwyd gwobrau arbennig i unigolion o’r Ganolfan.
Ysgoloriaeth er cof am Ben Muskett, oedd yn cydnabod pianydd ifanc a brwdfrydig, a dwy wobr er cof am gyn aelodau Côr Meibion Caernarfon i’r disgyblion oedd wedi ennill y marciau uchaf yn arholiadau’r ABRSM.

Enillwyr:

Ysgoloriaeth Ben Muskett: Gwydion Rhys – Piano

Gwydion Rhys

Gwobr coffa Thomas William Jones: Leisa Lloyd-Edwards – Llais gradd 1

Leisa Lloyd-Edwards

Gwobr coffa Noel ab Owen Roberts: Ynyr Pritchard – Fiola gradd 8

Ynyr Pritchard

Hoffwn longyfarch y tri am eu llwyddiant a’u perfformiadau ac i bawb a gymerodd rhan yn y cyngerdd. Mae’n wir i ddweud na fydd y dyfodol yn brin o dalent.

Gwneud Rhodd

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias?

Digwyddiadau i Ddod

Erthyglau Arall

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o...

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020

Ar ôl dros 6 mis o beidio cynnal gweithgareddau wyneb i wyneb rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gwersi un i un wyneb i wyneb wedi ail gychwyn yn ein canolfannau yn Galeri Caernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gyfer y tiwtoriaid a’r disgyblion sy’n dymuno dychwelyd wyneb...