Diwrnod Agored CGWM yn Galeri Caernarfon 22/7/17

Cyhoeddwyd: 18 Gorffennaf, 2017

Cynhelir Diwrnod Agored Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon dydd Sadwrn Gorffennaf 22ain rhwng 10 -4yp. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ymlaen i bobl ifanc drwy gydol y dydd i roi blas o’r hyn a gynnigir gan y Ganolfan.

Sefydlwyd y Ganolfan egnïol hon yng Nghaernarfon yn 1999 sy’n darparu cyfleoedd arbennig mewn addysg gerddorol i bobl o bob oed a gallu drwy wersi offerynnol a lleisiol gan diwtoriaid profiadol, gwersi theori, ensembles, corau a llawer mwy!

Un o uchafbwyntiau’r Diwrnod Agored fydd dathlu penblwydd ‘Camau Cerdd’ yn 10 oed.  Mae Camau Cerdd yn brosiect arbennig sy’n cyflwyno elfennau cerddoriaeth mewn ffordd hwyliog ac addysgol i blant ifanc o 6 mis hyd at 7 mlwydd oed. Am 1 o’r gloch bydd dosbarth i blant rhwng 4-7 oed, a dosbarth i blant rhwng 6 mis a 4 oed a’i rhieni am 2 o’r gloch.  I ddilyn, am 2:45yp byddem yn mwynhau perfformiadau cerddorol gan gyn-ddisgyblion a thiwtoriaid y prosiect mewn parti gyda gemau a chacen.

Sefydlwyd y prosiect gan Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire; sy’n fyfyrwraig ôl-raddedig ym Mhrifysgol Sheffield yn astudio MA mewn Seicoleg Cerddoriaeth mewn Addysg. Mae’r cynllun wedi llwyddo i ddod a chwricwlwm cerddorol ysbrydoledig i gymunedau yng ngogledd Cymru gan gyrraedd meithrinfeydd, cartrefi nyrsio ac ysgolion. Dywedodd Marie-Claire:

“Mae’n gyffrous i weld sut mae’r ffordd yr ydym wedi defnyddio cerddoriaeth i rymuso unigolion wedi cael effaith mor gadarnhaol ar gymaint o bobl.  Fel tiwtor cerdd ‘dwi mor falch o weld cyn-ddisgyblion y prosiect yn tyfu o fewn cymunedau cerddorol, ac yn edrych ymlaen i’w clywed yn perfformio ar y diwrnod”

Cynhelir dau weithdy yn ystod y diwrnod, sef gweithdy chwythbrennau gyda’r tiwtoriaid Rhiannon Mathias, Marie-Claire ac Elin Roberts am 10yb, a Dosbarth Meistr llais gyda’r tenor Huw Llywelyn am 2yp.  Mae cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ifanc ddysgu mewn grwp yn bwysig i’r Ganolfan ac yn gyfle i unigolion berfformio a chydweithio gyda cherddorion eraill sy’n rhannu’r un diddordeb.

Hefyd yn ystod y diwrnod bydd yna wersi blasu am ddim yn cael eu cynnig ar y drymiau, gitar a phiano gan ein tiwtoriaid Graham ‘La’ Land, Neil Browning a Diana Keyse.  Yn ogystal ceir perfformiadau byw gan ddisgyblion a thiwtoriaid yng Nghaffi Bar Galeri.  Os yw’r tywydd yn caniatau, bydd y diwrnod yn diweddu gyda pherfformiad gan Doniau Cudd ac Arfon Wyn ar y Doc am 3:30yp. Cynhelir y digwyddiad gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd.  Bydd pob digwyddiad am ddim, a mae yna groeso cynnes i bawb.  I ddatgan eich diddordeb, neu am wybodaeth bellach cysylltwch â Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...