Penodi Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018

Cyhoeddwyd ar 15 Awst, 2017

Rydym yn falch iawn o benodiad diweddar y Delynores Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018. Bydd Catrin yn gweithio yn agos ag Elinor Bennett dros y misoedd nesaf ar yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal rhwng 1af – 7fed Ebrill 2018.

Gyda dros ugain mlynedd o brofiad fel telynores broffesiynnol yn Llundain, bellach mae Catrin yn byw gydai’i theulu ym Mhwllheli ac yn athrawes delyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2015.

Dywedodd  Catrin: “Rwy’n falch iawn o gyd-weithio gydag Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl, ac yn edrych ymlaen i weithio â staff Canolfan Gerdd William Mathias a gwirfoddolwyr lleol i greu Gŵyl gyffrous a llwyddiannus.”

Trefnir yr Ŵyl gan CGWM a bydd yn wledd o gyngherddau, cystadleuthau a dosbarthiadau meistr i ddathlu penblwydd y telynor byd enwog,  Osian Ellis yn 90 oed.

Meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl:

“Rwyf yn hapus iawn fod Catrin wedi ymuno â’r tîm sydd yn trefnu Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru IV ym mis Ebrill nesaf. Mae ganddi brofiad helaeth o drefnu digwyddiadau ym maes y delyn ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael ei chymorth a’i hegni i sicrhau fod yr Ŵyl Delynau  yn mynd o nerth i nerth ac yn denu cannoedd o delynorion o  lawer gwlad i Gaerenarfon ym mis Ebrill.”

Am ragor o wybodaeth am yr Ŵyl, ewch i wefan: Gŵyl Delynau Cymru

Gwneud Rhodd

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias?

Digwyddiadau i Ddod

Erthyglau Arall

Cyngerdd Siambr yn Nghanolfan Fwyd Bodnant

Cyngerdd Siambr yn Nghanolfan Fwyd Bodnant

Bydd y delynores Elinor Bennett a’r sielydd Nicki Pearce yn ymddangos mewn cyngerdd a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant am 4:00yp ar y 29 Ionawr 2017. Mae’r delynores a’r sielydd blaenllaw yn diwtoriaid yn Canolfan Gerdd...

Siec o £7,000 i CGWM gan y Loteri Genedlaethol

Siec o £7,000 i CGWM gan y Loteri Genedlaethol

Cafodd Canolfan Gerdd William Mathias gryn syndod pan ddaeth un o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol draw i ddweud bod eu cais am nawdd wedi bod yn llwyddiannus. Cyflwynwyd siec o £7,000 i’r Ganolfan fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ y Loteri Genedlaethol. Mae’r ymgyrch...

Llwyddiant i ddisgyblion yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016

Llwyddiant i ddisgyblion yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016

Llongyfarchiadau i nifer o’n disgyblion ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni: Unawd Bechgyn o dan 16oed – 1af Tegid Goodman-Jones / Tiwtor Ann Atkinson Unawd Merched o 16-19oed – 1af Tesni Jones / Tiwtor Ann Atkinson Unawd Piano o dan 16oed – 3ydd...