Llwyddiant i Ddiwrnod ‘Taro Traw’ Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych

Cyhoeddwyd: 17 Gorffennaf, 2015

Cynhaliwyd diwrnod agored ‘Taro Traw’ llwyddiannus gan Ganolfan Gerdd William Mathias ar y 12 o Orffennaf yn ei changen yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn darparu hyfforddiant cerdd o’r safon uchaf i bobl o bob oed yn ei phrif Ganolfan yn Galeri  Caernarfon am fwy na deng mlynedd bellach, ac ers 2012, mae wedi bod yn cynnig gwersi cerdd yn ei changen yn Ninbych ynghyd â gweithgareddau eraill yn y gymuned. 

Cafwyd cychwyn gwych i’r diwrnod gyda gweithdy telyn gan Dylan Cernyw a Morwen Blythin. Daeth telynorion o bob oed i’r gweithdy gan gael cyfle i gyd chwarae mewn awyrgylch hwyliog. 

Profodd y gweithdy i fod yn llwyddiannus tu hwnt, ac fe lwyddodd y grŵp i ddysgu dau ddarn mewn cyfnod byr iawn, gan roi perfformiad anffurfiol ar y diwedd. 

Roedd Morwen Blythin wrth ei bodd gyda’r cynnydd a wnaeth y grŵp:

Mae dysgu ac yna perfformio dau ddarn o’r newydd yn dipyn o gamp gan feddwl mai dyma’r tro cyntaf i’r grŵp gyfarfod! Rwyf yn obeithiol nawr fod hyn wedi gosod sylfaen i Ganolfan Gerdd William Mathias ffurfio côr telyn i’r dyfodol a fydd yn cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.

Bu’r diwrnod agored yn gyfle i’r Ganolfan gyflwyno un o’i phrosiectau arloesol arall yn yr ardal am y tro cyntaf, sef prosiect ‘Camau Cerdd’ sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth gyda Marie-Claire Howorth. 

Mae prosiect Camau Cerdd yn arbenigo mewn darparu addysg gerddorol i blant rhwng 6 mis oed, a 7 mlwydd oed.

Cynhaliwyd tri grŵp oedran yn ystod y diwrnod gan diwtoriaid y prosiect, Marie-Claire Howorth a Charlotte Green a oedd wrth eu boddau o weld pob un o’r tri grŵp yn llawn gyda chyfanswm o 32 o blant yn cymryd rhan.

Dywedodd Marie-Claire:

Wedi sawl mlwyddyn bellach o gyflwyno prosiect Camau Cerdd yn llwyddiannus ledled sir Gwynedd, mae’n amlwg i ni fod galw am brosiect cerddorol i blant ifanc yn ardal Dinbych, ac fe edrychwn ymlaen at  gynnal y prosiect yn yr ardal yn y dyfodol agos.

Fe gynigwyd gwersi blasu am ddim gyda thiwtoriaid profiadol y Ganolfan hefyd, gyda nifer o blant ac oedolion yn cymryd mantais o’r cyfle i roi cynnig ar offeryn cerdd am y tro cyntaf.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ gan fyfyrwyr y Ganolfan, ac fe groesawodd y Ganolfan Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych a Chymar y Cadeirydd, Gwyneth Kensler a Gaynor Morgan Rees i’r cyngerdd ynghyd â Phwyllgor Theatr Twm o’r Nant i fwynhau perfformiadau gan fyfyrwyr o bob oed a gallu cerddorol. Mae’r Ganolfan Gerdd yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal sesiynau cerdd mewn cartrefi sy’n cynnig gofal dementia o fewn Sir Ddinbych yn y misoedd nesaf yn ogystal â pharhau i ddatblygu ei chynllun Doniau Cudd ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu o fewn y Sir.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...