‘Siwrne Gerddorol i Bedwar Ban Byd’ – Tiwtoriaid Piano CGWM Mewn Cyngerdd

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd, 2015

Ar yr 8fed o Dachwedd am 3 o’r gloch y prynhawn fe fydd Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau o bedwar ban byd wrth i ddeuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias ddod ynghyd i arddangos eu talentau, dathlu cerddoriaeth piano, a rhoi blâs o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn yr Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhelir yn y Galeri yn ystod Gwanwyn 2016.

Bydd y rhaglen yn cynnwys gwledd o ddeuawdau a thriawdau piano Clasurol, Jazz a Phoblogaidd, ac yn dilyn siwrne gerddorol ar draws y byd – o ddinasoedd Ewrop ac Asia i draethau Awstralia, o Tin Pan Alley Efrog Newydd i dirwedd unigryw yr Affrig  – gyda gweithiau gan y cyfansoddwyr Fauré, Ravel, Poulenc, Handel, Dvořák a Rachmaninov, Kabalevsky, Benjamin, Grainger, Gershwin a Brubeck. Un o uchafbwyntiau’r cyngerdd fydd perfformiad o’r ddeuawd piano ‘Eryri’ a gyfansoddwyd gan un o fyfyrwyr talentog y Ganolfan Gerdd, Math Roberts.

Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016, Iwan Llewelyn-Jones:

Dyma gyfle gwych i diwtoriaid piano CGWM ddod at eu gilydd ar lwyfan Theatr y Galeri i berfformio rhaglen o gerddoriaeth apelgar sy’n llawn hwyl a sbri!

Dywed Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias:

Rydym yn diolchgar iawn i’r tiwtoriaid am eu gwaith caled yn paratoi ar gyfer y cyngerdd arbennig yma fydd yn gyfle hefyd i ni lawnsio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.

Gwneud Rhodd

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias?

Digwyddiadau i Ddod

Erthyglau Arall

Llwyddiant i ddisgyblion yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016

Llwyddiant i ddisgyblion yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016

Llongyfarchiadau i nifer o’n disgyblion ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni: Unawd Bechgyn o dan 16oed – 1af Tegid Goodman-Jones / Tiwtor Ann Atkinson Unawd Merched o 16-19oed – 1af Tesni Jones / Tiwtor Ann Atkinson Unawd Piano o dan 16oed – 3ydd...

Cyhoeddi canlyniadau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016

Cyhoeddi canlyniadau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016

Yn dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio...

Piano ar y Lôn

Piano ar y Lôn

Ar y 6ed o Ebrill bydd Cyfarwyddwr newydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn mynd ar y lôn gan gynnal perfformiadau byrfyfyr yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda phiano goch wedi ei darparu gan Pianos Cymru a chymorth Ian Jones, bydd Iwan yn...