‘Siwrne Gerddorol i Bedwar Ban Byd’ – Tiwtoriaid Piano CGWM Mewn Cyngerdd

Cyhoeddwyd: 7 Tachwedd, 2015

Ar yr 8fed o Dachwedd am 3 o’r gloch y prynhawn fe fydd Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau o bedwar ban byd wrth i ddeuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias ddod ynghyd i arddangos eu talentau, dathlu cerddoriaeth piano, a rhoi blâs o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn yr Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhelir yn y Galeri yn ystod Gwanwyn 2016.

Bydd y rhaglen yn cynnwys gwledd o ddeuawdau a thriawdau piano Clasurol, Jazz a Phoblogaidd, ac yn dilyn siwrne gerddorol ar draws y byd – o ddinasoedd Ewrop ac Asia i draethau Awstralia, o Tin Pan Alley Efrog Newydd i dirwedd unigryw yr Affrig  – gyda gweithiau gan y cyfansoddwyr Fauré, Ravel, Poulenc, Handel, Dvořák a Rachmaninov, Kabalevsky, Benjamin, Grainger, Gershwin a Brubeck. Un o uchafbwyntiau’r cyngerdd fydd perfformiad o’r ddeuawd piano ‘Eryri’ a gyfansoddwyd gan un o fyfyrwyr talentog y Ganolfan Gerdd, Math Roberts.

Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016, Iwan Llewelyn-Jones:

Dyma gyfle gwych i diwtoriaid piano CGWM ddod at eu gilydd ar lwyfan Theatr y Galeri i berfformio rhaglen o gerddoriaeth apelgar sy’n llawn hwyl a sbri!

Dywed Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias:

Rydym yn diolchgar iawn i’r tiwtoriaid am eu gwaith caled yn paratoi ar gyfer y cyngerdd arbennig yma fydd yn gyfle hefyd i ni lawnsio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...