Taro Traw i Ganolfan Gerdd William Mathias Dinbych!

Cyhoeddwyd: 8 Gorffennaf, 2015

Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych yn agor ei drysau i bawb ar gyfer diwrnod o weithgareddau cerdd ar y 12 Gorffennaf 2015. Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin, Camau Cerdd sef prosiect y Ganolfan i blant rhwng 6 mis a 7 mlwydd oed, cyngerdd Llwyfan Cerdd gan ddisgyblion y Ganolfan, a gwersi blasu am ddim.

Mae cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias wedi bodoli yn y dref ers 2012 ac wedi tyfu gan gynnig gwersi offerynnol a lleisiol gyda thiwtoriaid profiadol yn cynnwys Ann Atkinson, Teleri Siân, Glian Llwyd, Alfred Barker, a Morwen Blythin. Yn ogystal, datblygwyd prosiectau cymunedol megis Doniau Cudd ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu a sesiynau cerdd mewn cartrefi henoed mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Celfyddydol Sir Ddinbych. 

Bydd y diwrnod yn cychwyn ar fore Sul y 12 o Orffennaf gyda gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin. Mae’r gweithdy hwn yn agored i delynorion o bob oedran a gallu cerddorol, a bydd yn diweddu gyda chyngerdd byr anffurfiol am 12. 

Mae Camau Cerdd yn brosiect y mae Canolfan Gerdd William Mathias eisoes yn ei gynnig yng Ngwynedd. Mae arweinydd y prosiect, Marie-Claire Howorth wrth ei bodd o gael cyflwyno’r prosiect yn Ninbych am y tro cyntaf. Dywedodd:

‘Wedi sawl mlynedd o gynnal Camau Cerdd yn llwyddiannus ledled Gwynedd, rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael cyflwyno’r prosiect yn Ninbych. Mae’n brosiect cyffrous a phwysig a chredaf fod ganddo’r potensial i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd, cydsymud, y cof a sgiliau cymdeithasol ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff yn gyffredinol. Mae’r prosiect hefyd yn datblygu dealltwriaeth yr unigolyn o ddiwylliant a hunaniaeth gan fod y dosbarthiadau’n ddwyieithog ac yn annog dysgu caneuon gwerin o oedran ifanc. Bydd plant ifanc a’u teuluoedd yn cael y cyfle i ddarganfod byd cerdd drwy gyfrwng offerynnau cerdd, canu, gemau a mwy’.

Bydd sesiynau yn targedu plant 6-24mis oed, 2&3oed a 4-7oed yn cael eu cynnal yn ystod y prynhawn. Bydd pris arbennig o £2 y plentyn er mwyn dathlu cychwyn y prosiect yn Ninbych.  

Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnig gwersi blasu am ddim gan rai o’r tiwtoriaid profiadol. Bydd gwersi blasu telyn, piano, ffidil, a chanu yn cael eu cynnig ar y diwrnod. Cysylltwch â’r Ganolfan er mwyn trefnu amser eich gwers blasu.

I gloi’r diwrnod bydd cyngerdd Llwyfan Cerdd yn cael ei gynnal gan fyfyrwyr y Ganolfan. Mae cyngherddau Llwyfan Cerdd y Ganolfan yn darparu cyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu eu hyder trwy berfformio mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Nid oes pris mynediad ond croesawir rhoddion ar ddiwedd y cyngerdd.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...