canolfan gerdd William Mathias
Hafan
Amndanom Ni
Gwasanaethau
Gwybodaeth
Cysylltu
Newyddion
 
 
 
 
Gwefan Tiwtoriaid yn Unig

 
 

Cyngerdd yr Ŵyl Biano - cliciwch yma


Llwyddiannau Myfyrwyr y Ganolfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012

Fe fu hi’n wythnos hynod brysur a llwyddiannus iawn i nifer o fyfyrwyr, tiwtoriaid a staff y Ganolfan. Llongyfarchiadau i bawb ar eu gwaith caled - cliciwch yma


Myfyrwyr y Ganolfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Pob lwc i fyfyrwyr  y  Ganolfan fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (4-9 Mehefin).

  • Unawd Llinynnol Blwyddyn 6 ac Iau - Ynyr Bonner Pritchard
  • Unawd Piano Blwyddyn 6 ac Iau – Cedol Dafydd
  • Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 7 i 9 – Hana Abas
  • Unawd Llinynnol Blwyddyn 7 i 9 – Alwyn Tetzlaff
  • Unawd Piano Blwyddyn 7 i 9 – Gwenno Morgan
  • Unawd Telyn Blwyddyn 7 i 9 – Math Roberts
  • Unawd Llinynnol Blwyddyn 10 ac o dan 19oed – Mabon Jones
  • Unawd Piano Blwyddyn 10 ac o dan 19oed – Lloyd Steele
  • Unawd Merched Blwyddyn 10 ac o dan 19oed – Morgana Warren-Jones
  • Deuawd Blwyddyn 10 ac o dan 19oed – Morgana a Harriet
  • Unawd allan o Sioe Gerdd blwyddyn 10 ac o dan 19oed – Fflur Harman

Pob lwc hefyd i’r holl fyfyrwyr fydd yn perfformio fel aelodau o bartion, corau a grwpiau offerynnol ac yn y sioeau cerdd gydol yr wythnos.


Codi’r To ! - ‘El Sistema’ i Wynedd ? - cliciwch yma


Perfformiad arbennig dwy o delynoresau’r Ganolfan yn y Guildhall yn Llundain

Ar y 1af o Fawrth perfformiodd dwy o delynoresau ifanc y Ganolfan, Gwenno Glyn a Marged Elen Wiliam yn nathliadau ‘Dydd Gwyl Dewi yn Llundain’ yn Neuadd y Guildhall.


Llongyfarchiadau i’r ddwy ar eu perfformiadau arbennig a diolch i’r trefnwyr am y cyfle arbennig.

 

Profiad bythgofiadwy. Mae adroddiad Marged Elen yn dweud y cyfan :

Telynau, Hufen Iâ a Tanny Grey-Thompson
Wedi noson o chwarae cefndirol a dwy ddeuawd yn y Celtic Royal yng Nghaernarfon, ni feddyliodd Gwenno na finnau y byddai galwad ffôn yn cyrraedd Elinor Bennett yn ein gwahodd i fynd i chwarae yng Nghinio Gwyl Ddewi Cymry Llundain yn y Guild Hall yn Llundain.
Hyd yn oed ar ôl derbyn deuawdau newydd i’w chwarae, ar ôl yr ymarferion yn y Ganolfan, a’r ymarferion a’r paneidiau yn nhy Gwenno, ni wnaeth y gwahoddiad ein taro hyd nes i ni gyrraedd y ddinas fawr.
Wrth i’r trên arafu ar blatform Euston, diolch wnaeth Meinir, Gwenno a finnau fod telynau wedi eu darparu yno i ni ac nad oeddem wedi gorfod straffaglu gyda dwy delyn drwy brysurdeb y trenau tanddaearol.
Rhyfeddu wnaethom ar bopeth yn Llundain, o’r Tower Bridge i’r peiriant hufen iâ yn y gwesty! Rhyfeddod mwy fyth oedd prydferthwch y Guild Hall ac ymysg y Cennin Pedr, y dreigiau coch a’r bensaerniaeth anhygoel, roedd dwy delyn Apollol Salvi newydd sbon yn disgwyl amdanom.
Ar ôl newid i’n ffrogiau llaes, ymbinico, sgwrsio gyda Wynne Evans ei hun a setlo ar y llwyfan i chwarae cerddoriaeth gefndirol, daeth yn amser i ni chwarae ein deuawd. Trechodd y cyffro yr ofn a’r nerfau a cefais wefr wrth godi i’r gymeradwyaeth wresog ar ôl perfformio. Roedden ni’n dwy wedi gwirioni ac yn morio canu Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd y cinio!
Wrth i’r gwestai adael y Guild Hall yn eu ffrogiau llaes a’u dici-bôs, bachodd Gwenno, Meinir a finnau y cyfle i siarad gyda rhai o’r enwogion. Pleser o’r mwyaf oedd cael sgwrs ddiddorol iawn gyda Tanny Grey-Thompson a chael tynnu llun gyda hi.
Roedd Meinir, Elinor, Gwenno a finnau yn dal i fod wedi cyffroi’n lân yn y tacsi yn ôl i’r gwesty a chyffroi ydym ni heddiw wrth siarad am y profiad ac wrth edrych ar y lluniau.
Rwyf i a Gwenno yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd y cyfle i ni fynd i chwarae yn y Guild Hall. Roedd yn brofiad bythgofiadwy a bydd siarad amdano am amser hir i ddod. Diolch o galon i Meinir ac Elinor hefyd am gefnogi ac edrych ar ôl y ddwy ohonom yn ystod y daith. Fe fyddaf yn trysori’r profiad am byth.

Marged Elen



Cyfleoedd Cerddorol yn Llanidloes

elinor bennet elinor bennet

 

gweithdy

Cyflwynwyd gweithgareddau cerddorol gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Ysgol Uwchradd Llanidloes dydd Sadwrn Tachwedd 26ain 2011


Dyma gam cyntaf i wireddu breuddwyd y diweddar Ben Muskett; Pennaeth Cerdd blaenorol yr Ysgol a fu farw’n drychinebus ar ddechrau’r flwyddyn. Tra’n ifanc, derbyniodd Ben wersi piano yn y Ganolfan yng Nghaernarfon. Yna, gweithiodd i’r Ganolfan fel tiwtor piano ac roedd yn awyddus iawn i sefydlu cangen o’r Ganolfan yn Llanidloes.

Roedd tiwtoriaid proffesiynol yn bresennol yn Llanidloes dydd Sadwrn i roi cyngor a hyfforddiant i blant a phobl o bob oedran a gallu. Ymunodd unigolion o leoliadau amrywiol drwy Gymru a Lloegr â’r gymuned leol ar gyfer y diwrnod.

• Trefnwyd ‘Diwrnod i’r Delyn’ dan arweiniad y delynores o fri rhyngwladol Elinor Bennett; yn wreiddiol o Lanidloes ac un o sefydlwyr Canolfan Gerdd William Mathias. Drwy gydol y bore, arweiniodd sesiwn grŵp ar gyfer dechreuwyr, gyda sesiwn yn dilyn ar gyfer pobl oedd erioed wedi chwarae’r delyn o’r blaen. Yn ystod y prynhawn, cafodd telynorion mwy profiadol y cyfle i chwarae i Elinor mewn Dosbarth Meistr. Roedd Telynau Vinnig o Gaerdydd yn bresennol gydag arddangosfa o delynau Camac, ynghyd â cherddoriaeth a chyfarpar.
• Cyflwynodd y gantores broffesiynol Jenny Pearson ddau Weithdy Cerdd drwy gydol y diwrnod. Cafodd plant lleol y cyfle i fynychu gweithdy hwyliog yn ystod y bore, oedd yn gyflwyniad i gerddoriaeth drwy gyfrwng caneuon, rhythmau a gemau. Arweiniodd Jenny Pearson weithdy corawl yn y prynhawn ar gyfer cantorion profiadol, oedd yn cynnwys ymarferion anadlu a gweithio ar repertoire gyda’r cyfeilydd Aeron Preston o Landinam. Mae Jenny’n diwtor llais ac yn arweinydd Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias, ac yn diwtor corws cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaernarfon ar hyn o bryd.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Gerdd William Mathias, a sefydlwyd yng Nghaernarfon yn 1999. Wedi ei lleoli yn Galeri Caernarfon, mae’r Ganolfan yn cynnig hyfforddiant cerddorol a chyfleoedd i aelodau’r gymuned mewn amrediad eang o offerynnau yn ogystal â llais. Trefnir gweithgareddau grŵp, yn cynnwys ‘Doniau Cudd’ ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, a ‘Camau Cyntaf Cerdd’ ar gyfer plant dan oed ysgol.

Mae Ymddiriedolwyr Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i gynnig hyfforddiant a chyfleoedd newydd i unigolion o fewn lleoliadau eraill yn dilyn llwyddiant y Ganolfan yng Nghaernarfon.




 

 

 

| Mwy

Hawlfraint © 2010 Canolfan Gerdd William Mathias. Gwefan gan Delwedd
Facebook Twitter