CANOLFAN GERDD WILLIAM MATHIAS
GŴYL BIANO 2012
4-6 Mai – Galeri, Caernarfon, Gwynedd
RHEOLAU CYSTADLU
(a) Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
(b) Nid oes cyfyngiad iau ar yr oedran h.y. gall person gymryd rhan mewn unrhyw
gystadleuaeth os yw dan yr oedran penodedig ar y dyddiad a nodir.
(c) Gall pianyddion a chyfeilyddion gymryd rhan mewn mwy nag un
gystadleuaeth, ond bydd tâl cystadlu am bob cystadleuaeth.
(d) Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae gan drefnwyr yr Ŵyl hawl i atal y wobr (a/neu nifer o gystadleuwyr yn y Rownd Derfynol) os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y Beirniaid.
(e) Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan
banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob cam o’r cystadlaethau.
(f) Cystadleuaeth C i Gyfeilyddion. Bydd y rhai sy’n cyrraedd Cam 2 (y rownd derfynol) yn cael cyfle i ymarfer gyda’r unawdwyr ymlaen llaw ac yn derbyn copi o’r ‘darn ar y pryd’ awr cyn ei berfformio.
(g) Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i wneud y canlynol:
i) Recordio neu ffilmio unrhyw ran o’r gystadleuaeth
ii) Darlledu unrhyw rannau o’r gystadleuaeth
iii)caniatau i ffotograffwyr dynnu lluniau yn ystod yr Ŵyl i’w defnyddio gan y wasg a’r cyfryngau ac yn neunydd marchnata Canolfan Gerdd William Mathias (yn cynnwys y we).
Ni fydd y trefnwyr yn talu taliadau perfformio i unrhyw un o’r cystadleuwyr am unrhyw berfformiadau yn gysylltiedig â’r Ŵyl hon.
(h) Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (a’r recordiadau i gystadleuaeth A) yw Mawrth 1, 2012.
Bydd manylion llawn am amserlenni a digwyddiadau’r Ŵyl yn ymddangos yn fuan ar y wefan hon.
Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r Rheolau Cystadlu